Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
4 Hydref 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13519
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd cwestiynau 1-6 ac 8-10. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith ar gyllid trafnidiaeth yng Nghymru yn sgil yr adroddiadau bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu rhoi’r gorau i linell gangen prosiect HS2 rhwng Birmingham a Manceinion?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.13
Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad am - Cetoasidosis diabetig (DKA), a 5 mlynedd ers marwolaeth Alastair Thomas.
Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - Dathlu bywyd a chyfraniad parhaus Max Boyce, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar, a dadorchuddiwyd cerflun iddo yn ei dref enedigol, Glyn-nedd.
Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am - Dathlu Clwb y Bont ym Mhontypridd yn troi’n ddeugain oed.
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Yr Hawl i Gael Tai Digonol
Dechreuodd yr eitem am 15.19
NDM8365 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Yr Hawl i Gael Tai Digonol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Gorffennaf 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith Craffu Blynyddol 2022-23
Dechreuodd yr eitem am 16.01
NDM8367 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Cyfoeth Naturiol Cymru - Gwaith Craffu Blynyddol 2022-23’, a osodwyd ar 19 Mai 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Gorffennaf 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau bws
Dechreuodd yr eitem am 16.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8369 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod gwasanaethau bws yn hanfodol i gysylltedd cymunedau Cymru ac i blant sy'n teithio i'r ysgol.
2. Yn nodi bod y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi rhybuddio am doriadau pellach i ddarpariaeth gwasanaethau bysiau Cymru heb warantau pendant ynghylch cyllid hirdymor gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn gresynu bod bron i 10 y cant o lwybrau bysiau Cymru wedi cael eu dileu dros yr haf oherwydd bod cyllid y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau wedi dod i ben.
4. Yn gresynu y bydd diwedd Grant y Rhaglen Datblygu Gwledig yn arwain at gau gwasanaeth fflecsi Bwcabus yn llwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn 31 Hydref ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cael ei adfer.
5. Yn credu y gellid gosod rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru ar sail gynaliadwy pe bai Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid HS2.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau bysiau ledled Cymru, buddsoddi ynddynt a’u hehangu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru, erbyn diwedd 23/24, wedi darparu gwerth dros £200m o gyllid brys i’r diwydiant bysiau.
Yn nodi bod methiant Llywodraeth y DU i gadw at ei haddewid, sef na fyddem mewn sefyllfa waeth yn sgil Brexit, wedi arwain awdurdodau lleol at derfynu’r gwasanaeth Bwcabws.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
8 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.02
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.05
NDM8348 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Bai rhieni a proffil awtistiaeth osgoi galw patholegol
Daeth y cyfarfod i ben am 18.31
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Hydref 2023